Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru

Abstract

Er gwaethaf pwysigrwydd canolog y Rhyfel Mawr i hanes modern Cymru, nid oes llawer o weithiau academaidd wedi olrhain dylanwad maleisus a phellgyrhaeddol y rhyfel ar ddiwylliant a chymdeithas yng Nghymru. Yn sicr mae bylchau mawr a diffyg dealltwriaeth yn y cynnyrch Cymraeg ei iaith.Bydd cyfrol Creithiau, a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2015, yn dechrau ar y gwaith o unioni’r fantol. Bydd cyfraniadau gan nifer o ysgolheigion disglair yn ein cynorthwyo i ddeall yn well sut newidiodd y byd Cymreig am byth yn sgîl digwyddiadau 1914-18. Byddwn yn olrhain datblygiadau yng nghymdeithas a diwylliant Cymru yn ystod y blynyddoedd o ymladd, ac wedi i’r gynnau dewi, pan edrychai unigolion yn ôl a cheisio gwneud synnwyr o’u profiadau

    Similar works

    Full text

    thumbnail-image