Mae cyfieithu i’r Gymraeg wedi tyfu bellach yn ddiwydiant pwysig, ac mae’r berthynas rhwng cyfieithu proffesiynol a chynllunio ieithyddol ehangach wedi cael sylw academaidd yn ddiweddar ochr yn ochr â hyn (cf. Gonzalez 2005, O’Connall a Walsh 2006, Kaufmann 2010, 2012, Nunez 2013). Mae cyfieithwyr yn hwyluso ac yn cynorthwyo ymdrechion i amddiffyn hawliau iaith siaradwyr lleiafrifol ac yn cyfrannu at y gwaith ehangach o adfer yr ieithoedd hyn, trwy ddarparu cyfieithiadau o destunau amrywiol ac wrth alluogi siaradwyr ieithoedd lleiafrifol i siarad eu hiaith. O ganlyniad i bwysigrwydd cyfieithwyr i lwyddiant polisïau iaith a’u lle canolog yn y broses o amddiffyn hyfywedd y gymuned
Gymraeg, mae’r dulliau y mae cyfieithwyr y Gymraeg yn cyfieithu drwyddynt hefyd yn ystyriaeth berthnasol i gynllunwyr iaith. A all technolegau cyfieithu penodol gyflymu cyfieithu, gan leihau’r ymdrech sydd ynghlwm wrth greu cyfieithiad a chan gynyddu cynhyrchiant cyfieithwyr proffesiynol? Mae hyn yn ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun datblygiadau polisi diweddar, gyda safonau cyntaf Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 wrthi’n cael eu gweithredu. Bydd yr erthygl hon yn mynd i’r afael â’r effaith y mae golygu allbwn Cofion Cyfieithu ar ffurf Cyfatebiaethau Rhannol yn ei gael ar y broses o ffurfio cyfieithiad,
ar y cyd ag ystyried yr effaith ar brosesau cynhyrchu testun, gan gynnwys ystyried hefyd nifer y geiriau a gynhyrchir. Gwneir hynny o fewn fframwaith cymharol, lle y defnyddir cyfieithu heb gymorth allbwn o’r cof cyfieithu yn waelodlin