Arwynebedd cyfyngedig o dir sydd gan y byd i greu bwyd, tanwydd a dillad i boblogaeth sy’n tyfu, ac ar yr un pryd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a diogelu bioamrywiaeth.Ar sail dros gan mlynedd o hanes o weithio i wella amaethyddiaeth tir glas, nod ymchwil IBERS yw gwneud ffermio yn fwy cynhyrchiol, mwy buddiol i’r gymdeithas a mwy gwarchodol i’n hamgylchedd. Yn yr Athrofa, rydyn ni’n cynnal ymchwil sydd ar flaen y gad a chymhwysol arloesol sy’n sail ar gyfer bridio mathau newydd a gwell o gnydau, gan wneud amaethyddiaeth yn fwy cynaliadwy, a galluogi’r diwydiant i ddatblygu prosesau a chynhyrchion newydd. Yma yn y Canolbarth, mae lleoliad unigryw IBERS a’i ecosystem o alluoedd yn caniatáu i’n myfyrwyr a’n hymchwilwyr gyflawni gwaith ymchwil ymarferol a hyfforddiant mewn geneteg planhigion, amaethyddiaeth, ecoleg, biotechnoleg a gwyddor amgylcheddol. Mae hyn yn fodd inni astudio’n hamgylchedd, ein cynefinoedd a’n systemau bwyd o’r mynydd i’r môr ac o’r fferm i’r fforc. Mae ymchwil graidd IBERS yn canolbwyntio ar wneud cnydau’n fwy gwydn yn erbyn newid hinsawdd, gwella ansawdd cnydau, diogelu amrywiaeth genetig, dal carbon, a deall y rhyngweithio ehangach rhwng amaethyddiaeth a’r amgylchedd. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r diwydiant i fynd i’r afael â heriau byd-eang, ymgysylltu â’r rhai sy’n ffurfio polisïau a’r gymuned amaethyddol ehangach er mwyn deall yr hanfodion yn well, ac yna cydweithio i ddod o hyd i atebion. Mae’r casgliad hwn o straeon effaith yn rhoi enghreifftiau go iawn le mae IBERS wedi creu effaith, ac yn parhau i wneud hynny, trwy gymhwyso ein biowyddoniaeth i helpu i adeiladu gwell yfory.The world has a finite area of land to feed, fuel and clothe a growing population, while at the same time reducing greenhouse gas emissions and safeguarding biodiversity.With over a hundred year history of working to improve grassland agriculture, IBERS’ research aims to make farming more productive, beneficial to society and protective of our environment.At the institute, we conduct cutting-edge fundamental and applied research that underpins the breeding of new and improved varieties of crops, makes agriculture more sustainable, and enables industry to develop new processes and products.In the heart of Wales, IBERS’ unique location and ecosystem of capabilities allows our students and researchers to conduct hands-on research and training in plant genetics, agriculture, ecology, biotechnology, and environmental science. Enabling study of our environment, habitats, and food systems from summit to sea and field to fork.IBERS core research is focused on making crops more resilient to climate change, improving crop quality, safeguarding genetic diversity, capturing carbon, and understanding the wider interactions between agriculture and the environment.We work closely with industry to tackle global challenges, engage with policymakers and the wider agricultural community to better understand the critical issues, and then work collectively to find solutions.This collection of impact case stories provides some real-world examples of where IBERS has been, and is, creating impact by applying our bioscience to help build a better tomorrow.<br/