Cyflwyniad i Droseddeg

Abstract

Bwriad pennaf y llyfr hwn yw rhoi cyflwyniad i droseddeg fel maes astudio pwnc gradd academaidd i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf mewn sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru. Dyma’r symbyliad i ddatblygu gwerslyfr academaidd cynhwysfawr yn y Gymraeg a fyddai’n cyflwyno myfyrwyr i agweddau beirniadol o ddilyn ac astudio troseddeg drostynt eu hunain. Yn ogystal â chynnig yr adnodd yn yr iaith Gymraeg, mae’r gyfrol hefyd yn gofyn i fyfyrwyr berthnasu damcaniaethau troseddeg o fewn cyd-destun troseddu yn y Gymru gyfoes

    Similar works